Capel Salem

Salem v Brigâd Dân De Cymru


12 Mai 2008, Cae'r Esgob, Llandaf
Salem ennill o 6 wiced

Fe ddechreuodd tymor Clwb Criced Salem gyda buddugoliaeth yn erbyn Brigâd Dân De Cymru. Gyda'r tywydd yn fendigedig a Chae'r Esgob yn edrych ar ei orau fe heidiodd tyrfa fawr i weld brwydr gyntaf y tymor.

Y Frigâd Dân fatiodd gyntaf ond buan y gostegwyd y fflamau gyda Hywel Owen yn cipio dwy wiced yn ei belawd gyntaf. Syrthiodd y wicedi yn reolaidd gyda safon y maesu yn arbennig o uchel – daliadau campus gan Trystan Edwards ac un gan Ion Tomos ble plymiodd fel eog o Afon Tywi  i ddal y bêl. Unwaith eto, gwelwyd perfformiad taclus gan Dai James fel wicedwr ag yntau newydd ddathlu penblwydd arbennig yr wythnos flaenorol. Wedi bowlio tynn gan Ian Derrick, Geraint Cynan ac Evan Morgan daeth y batiad i ben gyda'r Frigâd wedi sgorio 75.  

Y tad a'r mab Cynan agoriodd y batio gyda'r Ysbryd Glan yn gobeithio am bartneriaeth dda. Syrthiodd Dyfed yn gynnar ond llwyddodd Cynan Snr. i roi dechrau sefydlog i'r batiad (10).  Daeth ei fatiad i ben ar amser anffodus gan fod y batiwr nesaf Ion Tomos yng nghanol mwynhau picnic a baratowyd gan ei wraig. Wedi taro un ergyd i'r ffîn, roedd Ion nôl yn mwyhau'r danteithion yn ddigon buan. 'Roedd y barmy army ar y teras gorllewinol yn dechrau poeni ond sicrhaodd Trystan Edwards (23) a Hywel Owen (19 h.f.a) y fuddogliaeth i Salem o 6 wiced gyda 5 pelawd yn weddill. 

Yn ôl capten Salem, Evan Morgan "Rydym wedi curo Brigâd Dân De Cymru gyfan. Mae'n ddechrau gwych i'r tymor a rwy'n falch iawn o'r tîm"