
19 Mai 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Salem ennill o 6 wiced
Y teulu Cynan oedd y sêr wrth i Salem ennill eu hail gêm o’r tymor. Cymerodd Geraint Cynan bedair wiced ym matiad yr Amgueddfa cyn i’r mab, Dyfed sicrhau’r fuddugoliaeth gyda’r bat.
Sain Ffagan fatiodd gyntaf ond syrthiodd y wicedi yn gyson gyda Siôn Williams yn cymeryd pedair wiced gynnar. Bowliodd Gwilym Boore yn dynn hefyd, tipyn o gamp o ystyried cyffro’r penwythnos yn Wembley. Yn ffodus ‘roedd dwylo maeswyr Salem yn fwy diogel na Peter Enckleman gyda daliadau da, allweddol. Cipiodd Geraint Cynan bedair wiced a llwyddodd Ian Derrick i gymryd dwy wiced yn ei ddwy belawd. Unwaith eto ‘roedd Evan Morgan yn gyson gyda’i droelli gyda’i dair belawd ond yn costio 15 rhediad. Daeth batiad yr Amgueddfa i ben gyda’r sgôr ar 78 wedi 17.1 o belawdau.
Camodd batwyr agoriadol Salem i’r maes yn hyderus a gwelwyd partneriaeth dda cyn i Aled James golli ei wiced am 8. Buan y dilynodd Dewi Rhishart ac Ion Tomos cyn i’r tad a’r mab Cynan ddod at ei gilydd ar y llain. Tarodd Dyfed Cynan ergydion nerthol i’r ffîn gan ddinistrio hyder y bowlwyr. Cafodd gymorth gwerthfawr gan ei dad a sgoriodd 8. Yn anffodus daeth batiad Dyfed i ben gyda’r sgôr yn gyfartal a bu’n rhaid i Gwilym Boore gamu yn y bwlch i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda phum pelawd yn weddill.
‘Roedd cefnogwyr Salem wrth eu bodd gyda llwyddiant y tîm ond siomedig iawn oedd y dilynwyr oddi cartref gyda rhai o swyddogion yr Amgueddfa yn bygwth cynnal ymchwiliad i’r hyn aeth o’i le.
Yn ôl capten llwyddiannus Salem Evan Morgan “Mae’r tîm yn perfformio’n wych ar y foment, ond bydd yr her fwyaf yn y gêm nesaf yn erbyn Athrawon y Fro sy’n dîm cryf. Gobeithio y bydd y tîm yn ymlacio dros gyfnod hanner tymor ac yn dychwelyd yn barod am y frwydr”