Capel Salem

Salem v Athrawon y Fro


4 Mehefin 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Athrawon y Fro ennill o 6 wiced

Am yr ail dymor yn olynol dysgodd Athrawon y Fro wers i dîm criced Salem ond drama oedd y pwnc ar ddechrau’r noson.

‘Roedd pedwar tîm wedi cyrraedd Cae’r Esgob yn disgwyl chwarae gêm o griced ond wedi i Evan Morgan, gyda chymorth capten yr Athrawon Alun Jenkins, bledio’u hachos a phofi mai hon oedd gêm fawr y noson diflannodd y ddau dîm arall.

Athrawon y Fro fatiodd gyntaf ond Salem ddechreuodd orau wrth i’r bowlwyr agoriadol brofi llwyddiant. Cipiodd Hywel Owen 2 wiced gan ildio 13 rhediad tra cymerodd Sion Williams un wiced am 20 rhediad. Ond yna gwelwyd cyn chwaraewr Salem Rhydian Lloyd (31) a G. Evans (30) yn ffurfio partneriaeth dda i roi cyfanswm o 116 yn eu deunaw pelawd. Cipiodd Evan Morgan un wiced am saith rhediad.

Roedd cyfanswm Athrawon y Fro yn gystadleuol a dechreuodd Salem yn dda gyda phartneriaeth dda am y wiced agoriadol rhwng Aled James (19) a Dyfed Cynan (18). Cyfrannodd Trystan Edwards 14 rhediad gyda’i fat handlen hir ond collwyd wicedi yn gyson wrth i nifer o fatwyr Salem gael eu rhedeg allan gan gynnwys y Gweinidog wnaeth ddim hyd yn oed wynebu pêl. Daeth y batiad i ben gyda Salem wedi sgorio 91 o rediadau.

Er y siom o golli’r gêm ‘roedd capten Salem Evan Morgan yn ddigon bodlon gyda’r perfformiad “o’dd hi’n gem dda a llawer agosach na’r gêm llynedd ond ‘roedd y digwyddiadau cyn y gêm wedi effeithio arnon ni” Datgelodd Evan hefyd fod dirgelwch diflaniad un o stumps Salem wedi taflu cysgod dros y noson.