Capel Salem

Salem v Crwys


9 Mehefin 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Crwys ennill o 8 wiced

Roedd cryn edrych ymlaen wedi bod at y gêm hon a tyrrodd tyrfa dda i Gae’r Esgob i wylio’r frwydr ar noson hyfryd o haf.

Salem fatiodd gyntaf ond roeddynt yn fuan mewn trafferth wrth iddynt golli tair wicedgyda’r sgôr ond wedi cyrraedd 9. Unwaith eto Dyfed Cynan oedd yn arwain y ffordd a fe oedd angor y batiad drwy sgorio 33 rhediad. Cafodd gymorth gan ei dad Geraint Cynan (16) a Trystan Edwards oedd unwaith eto’n serennu gyda’i handlen hir. Daeth y batiad i ben gyda Salem wedi sgorio 121 o rediadau – cyfanswm digon cystadleuol mewn ugain pelawd.

Dechreuodd batiad y Crwys yn dda gyda’r tad a’r mab – Hywel a Maelor James yn creu partneriaeth dda am y wiced gyntaf. Collodd Maelor ei wiced am 12 ond llwyddodd y tad ynghyd ag un o wynebau newydd tîm y Crwys Rh Davies i daro’r bêl i bob rhan o’r cae. Profodd Salem dipyn o anlwc wrth i Trystan Edwards ymddangos i fowlio Hywel James ond yn rhyfeddol ni syrthiodd y ‘bails’ oddi ar y wiced. Tybed os oedd y Crwys wedi rhoi Superglue ar y wicedi? Cafodd Salem gyfle hefyd i ddal Rh Davies ond lloriwyd y daliad.

Cyrhaeddodd Crwys y nod gyda phedair pelawd yn weddill a ‘roedd siom Evan Morgan yn amlwg wrth iddo wrthod siarad gyda’r wasg ar ôl y gêm.