
16 Mehefin 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Salem ennill o 10 rhediad
Wedi colli’r ddwy gem ddiwethaf, roedd Salem yn falch o allu cipio buddugoliaeth yn erbyn Rhieni Ysgol Pwll Coch. Ar noson hyfryd o fis Mehefin daeth tyrfa dda i Gae’r Esgob, nifer yn cefnogi’r gwrthwynebwyr, i wylio’r ornest.
Salem fatiodd gyntaf ac unwaith eto gwelwyd partneriaeth effeithiol rhwng Aled James (17) a Dyfed Cynan (33). Dilynwyd hyn gan fatiad grymus gan Hywel Owen a sgoriodd 42 o rediadau cyn i’r batiad ddod i ben gyda Salem wedi sgorio 143 yn eu ugain pelawd. Bowliwr mwyaf llwyddiannus Pwll Coch oedd S. Fisher a gipiodd ddwy wiced am 3 rhediad.
Roedd Salem yn ymwybodol mai prif berygl Rhieni Pwll Goch oedd Tim Musgrave, g?r sydd wedi sgorio cant yn erbyn Salem yn y gorffennol. Fe ddechreuodd yn dda ond collodd ei wiced wedi iddo sgoro 23 – Rhys Boore yn ei ddal coes o flaen wiced gyda’i bel gyntaf. Gwelwyd partneriaeth dda rhwng S. Lord (40) a S. Fisher (46) a roedd diwedglo cyffrous ond roedd cyfanswm Salem yn ormod i’r rhieni a daeth eu batiad i ben ar 133. Cymerodd Rhys Boore ddwy wiced am 29 rhediad yn ei bedair belawd a Geraint Cynan 2 wiced am 30 rhediad.
Gêm dda a Salem yn haeddiannol yn fuddugol. Roedd y capten Evan Morgan wrth ei fodd “roedd hwn yn berfformiad tîm gyda pawb yn cyfrannu at y fuddugoliaeth. Rydym yn llawn hyder nawr wrth deithio i Benarth wythnos nesaf”