
24 Mehefin 2008, Cae’r Old Penarthians, Penarth
Bethel, Penarth ennill o 16 rhediad
Cafwyd gwledd o griced ar faes criced Penarth wrth i Fethel guro Salem mewn gêm gystadleuol o safon uchel.
Bethel fatiodd gyntaf ac unwaith eto Dil Samuel oedd seren y tîm cartref wrth iddo fe fatio drwy gydol yr ugain pelawd am 52 rhediad. Cafodd gymorth gwerthfawr gan Gareth Davies (50) a fatiodd yn ymosodol cyn cael ei ddal yn acrobataidd gan Gethin Thomas ar y ffîn. Dyma heb os un o’r daliadau gorau a welwyd yn hanes Clwb Criced Salem. Cyfrannodd Greg Morgan 10 rhediad a Rhydian Lloyd, yn chwarae ei ail gêm yn erbyn Salem y tymor yma yn sgorio 14. Bowliodd Hywel Owen ei bedair pelawd am ond 9 rhediad, tra cymerodd John Morgan ddwy wiced yn hwyr yn batiad.
‘Roedd Salem yn gweld eisiau’r batwyr agoriadol arferol Dyfed Cynan ac Aled James a syrthiodd y wicedi yn gyson yn eu habsenoldeb Yr unig un i gyfrannu’n sylweddol oedd Gareth Owens a sgoriodd 28. Nid oedd y batwyr ymosodol Ion Tomos na Trystan Edwards ar gael chwaith ac er y gwelwyd cameo gan John Morgan (14) daeth y batiad i ben gyda Salem wedi sgorio 122 gan golli 8 wiced yn eu ugain pelawd. Un nodyn anffodus oedd anaf i goes Dewi Rhishiart a ‘roedd cryn bryder ymhlith y tîm ynglyn ag oblygiadau hyn i’w ymarferion Dawnsio Gwerin cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gyda’r ddau dîm wedi rhoi o’u gorau roedd gwledd wedi ei baratoi yn y clwb ar eu cyfer. Yn ôl Evan Morgan “mae wedi bod yn gem dda, wedi ei chwarae mewn ysbryd da ac mae’r croeso wedi bod yn gynnes yma ym Mhenarth”.