
30 Mehefin 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Pobol y Cwm ennill o 7 rhediad
‘Roedd disgwyl tipyn o ddrama yn erbyn actorion Pobol y Cwm a dyna a gafwyd ar noson heulog o hâf ar Gae’r Esgob.
Pobol y Cwm gamodd i’r llwyfan i fatio gyntaf ac yn fuan roeddynt mewn trafferth yn colli 5 wiced gyda dim ond 21 o rediadau wedi eu sgorio. Sion Williams oedd yn bennaf gyfrifol am y difrod gan gipio pedair wiced am 12 rhediad yn ei bedair belawd. Cafodd gymorth hefyd gan John Morgan a gymerodd 1 wiced am 11 rhediad yn ei bedair belawd yntau. ‘Roedd hi’n ymddangos y byddai pawb gartref i wylio pennod y noson honno o Pobol y Cwm ond buan y newidodd pethau.
Llwyddodd Gareth Skelding i sicrhau angor i’r batiad a chafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan Rhys ap William (23) a Rhys Bidder (16h.f.a). Ond seren y noson oedd Ian Weighley – enw anghyfarwydd i ddilynwyr y gyfres. Cafodd ei lorio yn y maes pan oedd ar 7 ond yna gwelwyd batiad ymosodol ganddo wrth iddo daro’r bêl i bob rhan o’r cae yn ei sgô o 51 h.f.a. Cymerodd Hywel Owen ddwy wiced hwyr i ddod â batiad Pobol y Cwm i ben ar 115.
Unwaith eto sicrhaodd Dyfed Cynan ddechrau cadarn i’r batiad wrth iddo sgorio 18 rhediad a chafodd gymorth nodedig gan Gwilym Boore a sgoriodd 25. Syrthiodd y wicedi yn gyson ond ‘roedd Salem yn agosau at y nod. Bowliwr mwyaf llwyddiannus Pobol y Cwm oedd Mark Flanagan a gipiodd 3 wiced am 16 rhediad.
‘Roedd angen 22 o rediadau oddi ar y ddwy belawd olaf ond wedi pelawd dda gan seren y gêm Ian Weighley doedd pethau ddim yn argoeli’n dda. Ond tra fod Evan Morgan wrth y llain ‘roedd gobaith a gwelwyd y gweindog yn taro’r bêl yn nerthol i’r ffîn ac yn rhedeg yn effeithiol rhwng y wicedi. Sgoriodd Evan 12 h.f.a ond daeth batiad Salem i ben wedi sgorio 108 – 7 rhediad yn brin o gyfanswm Pobol y Cwm.
Siom i Salem ac i’w capten Evan Morgan “roedd hi’n gem dda, agos ond fe’n trechwyd gan un dyn heno. Mae ganddo gysylltiadau gyda Salem felly bydda i’n ceisio ei arwyddo fel chwaraewr Kolpak ar gyfer y dyfodol”