
14 Gorffennaf 2008, Cae’r Esgob, Llandaf
Ffilistiaid ennill o 8 rhediad
Daeth tyrfa fawr ynghyd ar Gae’r Esgob i weld gem olaf y tymor rhwng dau dîm o chwaraewyr Salem – y Corninthiaid yn erbyn y Ffilistiaid.
Roedd criw da o gefnogwyr wedi ymgynnull ar y glaswellt o flaen yr Eglwys Gadeiriol gyda’u picnics ond ‘roedd eu sylw wedi hoelio ar y criced o’r eiliad gyntaf hyd yr olaf.
Y Ffilistiaid fatiodd gyntaf a gwelwyd partneriaeth agoriadol o 85 rhediad rhwng Rhydian Lloyd (42 h.f.a) a Dyfed Cynan 33. Wedi i Rhydian Lloyd, oedd eisoes wedi bod yn rhan o ddau dîm sydd wedi curo Salem y tymor hwn, ymddeol daeth Gwilym Boore i’r llain gan sgorio 11. Yna plesiwyd y cefnogwyr gan ymddangosiad hir-ddisgwyliedig Prys Dafydd i’r llain - y batiwr profiadol yn taro 15 heb fod allan. Rhaid nodi hefyd cyfraniad Evan Morgan fel wicedwr – ai dyma’r ateb i dîm Lloegr gyda Tim Ambrose yn tan-gyflawni ar hyn o bryd? Daeth y batiad i ben gyda’r Ffilistiaid wedi sgorio 133 am ddwy wiced. .
Gyda’r awyr yn dechrau tywyllu, dechreuodd batiad y Cornithiaid yn ddigon addawol gyda Aled James (15) a Gareth Owen (34) yn serennu. Tarodd Gareth ‘Napier’ Owens sawl ergyd nerthol dros y ffîn gan gynnwys un ergyd ble ‘roedd hyd yn oed rhaid i’w dîm ei hunan rhedeg am gysgod. Gwelwyd bowlio cywir gan Ashok, Hefin, Emyr, Rhydian a Hywel ond hefyd tystiwyd i un o’r pelawdau hiraf yn hanes y gamp wrth i Ion Tomos fowlio cyfres y beli llydan – digwyddiad a berodd i’r cefnogwyr ddangos eu hanfodlonrwydd gyda chlapio araf. .
Er ymdrech lew gan Gethin Thomas (21 h.f.a) ac Evan Morgan (11) daeth batiad y Cornithiaid i ben ar 125 - 8 rhediad yn brin o’r nod. .
Hywel Owen, capten y Ffilisitaid gafodd y fraint o godi Cwpan Nicodemus ond rhaid canmol y Corninthiad dan gapteniaeth Geraint Cynan am eu perfformiad hwy. Wrth edrych nôl ar y tymor ‘roedd capten Salem, Evan Morgan yn fwy na bodlon “ry ni wedi bod yn ffodus iawn gyda’r tywydd ac wedi mwynhau nifer o gemau cofiadwy ac mae heno wedi bod yn uchafwynt arbennig i’r tymor”